Diffwys Criafol

@diffwys_criafol

Ymholiadau i / Enquiries: [email protected]
Followers
501
Following
1,014
Account Insight
Score
22.79%
Index
Health Rate
%
Users Ratio
0:1
Weeks posts
Darlleniad bach arall gan @efasupertramp - diolch 🩷
13 0
1 month ago
Darlleniad bach gan @efasupertramp o "Ni Allwn-Allwn Ni". Diolch am bob dim ti 'di neud i gefnogi fy stwff creadigol 🩷 dwi'n lwcus iawn o fy ffrindia annwyl!
33 0
1 month ago
Diolch i @cymraeg.grangetown am gyd-drefnu. I @thewhispering_quill am ddarllen ei barddoniaeth Cwrdeg, @heleddmel am ddarrlen y cyfieithiad, ac i @melprysor am ganitau i ni darllen ei chyfieithiad Cymraeg a gyhoeddwyd yn @barddas , ac hefyd i @efasupertramp am ddarllen o gyfrol "ni allwn - allwn ni" a chafodd ei lansio. Diolch hefyd i @cardiffsaray am ddarparu bwyd a diod Cwrdeg blasus. Diolch i @siopcaban am ddod i werthu'r llyfrau Fe godon ni dros £70 i @heyvasor ac oedd yn noson braf (er yn chaotic efo'r tan gwyllt yn ffrwydro uwch ein pennau!). Diolch i bawb ddoth i gefnogi 🩷 Diolch i @cylchgrawn_y_stamp am y cyfle i gyhoddi'r gyfrol a i @grugmuse y golygydd am ei chefnogaeth.
41 4
3 months ago
Cyfieithiad Sorani y digwyddiad - wedi ei gywiro o ran fformat!
12 0
3 months ago
Diolch yn fawr i @sian_northey am yr adolygiad ac i bodlediad @collirplot 🎧 Cwl iawn clywed son am y pamffled ar un onfy hoff bodlediadau! Mae bob tro trafodaeth ddifyr am lyfra ar y poblediad gwych hwn 📚✨ Yr oedd Cat y babi dol creepy'n gwrando'n astud fel allwch weld 😂
15 0
3 months ago
Clod i Ni Allwn-Allwn Ni gan Diffwys Criafol ym mhennod ddiweddaraf podlediad Colli'r Plot. Diolch o galon i Sian Northey am roi sylw! Cofiwch y bydd dathlu cyhoeddi'r llyfr hwn yn rhan o noson 'Cariad, Cymru a Chwrdistan' a drefnir gan Lleisiau Grangetown yn y Grange Pavilion ar 10 Chwefror. Manylion y digwyddiad mewn post blaenorol! Ni Allwn-Allwn Ni: ysgrifau gan Diffwys Criafol ~ £7.50, ar gael o wefan Cyhoeddiadau'r Stamp ac o'ch siopau stampus lleol ☀️ celf y clawr: jo baines
17 0
3 months ago
Y mae Lleisiau Grangetown @hammadhrind yn cyflwyno noson o gyfnewid diwylliannol - Cariad, Cymru a Chwrdistan 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿💚💛❤️ Dewch i ddysgu am hanes yr afal cariad Cwrdaidd 🍎, a chewch gyfle i greu un eich hunain. Bydd @thewhispering_quill (Raz Shexany) yn adrodd barddoniaeth yng Nghwrdeg (Sorani) a bydd cyfieithiad @melprysor o’i gwaith yn cael ei darllen ochr yn ochr yn y Gymraeg. Ceir hefyd darlleniad a thrafodaeth byr i lansio cyfrol newydd Diffwys Criafol o ysgrifau "Ni Allwn - Allwn Ni” - wedi ei gyhoeddi gan @cylchgrawn_y_stamp Bydd bwyd a diod Cwrdeg ar gael - byddwn yn cymryd cyfraniadau ar gyfer elusenau yn Rojava , sy’n gwneud gwaith dyngarol yng Nghwrdistan. Croeso cynnes i bawb
52 4
4 months ago
Sgwennu yn 2025 - adolygiad diwedd blwyddyn. Yr oedd eleni'n flwyddyn o fod yn ara deg a sgwennu mewn ffordd llai ffrantic a chydig mwy ara' a phwyllog. Cefais gomisiwn i sgwennu adolygiad ffilm - profiad anghygoel a minna'n caru ffilm cymaint. Rhyddhawyd fy nghyfrol fechan "Ni Allwn - Allwn Ni". Diolch mawr iawn i griw y Stamp. Profiad cwl iawn fyddai byth yn anghofio. Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn gweithio ar ddarn am y system garchar a datganoli. Gobeithiaf caiff ei ryddhau yn fuan ar wefan newyddion Cymreig weddol newydd 👀 Mae sticio efo 'sgwennu'n anodd, felly gobeithiaf fydd 2026 yn flwyddyn o egni a ysbrydoliaeth. Ma na lot o syniada ond prin ydi'r amser! *** Blwyddyn newydd dda i chi gyd - bydd 2026 yn flwyddyn dyngedfenol yn hanes ni'r Cymry. Gall ein sgwennu ni gyfrannu at wneud dyfodol Cymru a'r byd yn well 🍃 *Cernuos sydd yn y llun
12 0
4 months ago
Os yda chi wedi cael eich ysbrydoli gan ysgrifau @diffwys_criafol dyma eu hawgrymiada nhw o be i ddarllen nesa ...
28 4
5 months ago
A dyma ni, cyfrol ola 2025, cyn i ni gau drws y stabal a gyrru'r mulod i wintro i ochra Llanbedrog. Mae hon yn gyfrol i ffitio yn gyfforddus ym mhoced eich hoff got aeaf, neu yn dwt mewn hosan. Dyma gasgliad o ddwy o ysgrifau gan Diffwys Criafol, y sgwennwr sydd wedi bod yn procio a phryfocio trwy ei herthyglau heriol a meddylgar ers sawl blwyddyn - a dyma nhw rwan mewn print am y tro cynta. Mae'r clawr hyfryd gan jo baines, ac mi fydd hon wrth fodd calon unrhyw un sydd efo diddordeb mewn cwestiynau am ddyfodol ein cymunedau ni, cydofalaeth, gwrth-hiliaeth, gofal, cariad, a iechyd meddwl. Mae'r sgwennu'n amrwd a dychmygus ac angerddol, ac mi arhosith be sydd gan Diffwys i'w ddweud wrtha chi am amser maith.
43 0
5 months ago
*CYHOEDDIAD* Cyfrol olaf 2025 o stabl Cyhoeddiadau’r Stamp fydd NI ALLWN-ALLWN NI gan Diffwys Criafol. Cynddaredd, cariad, gofal, galar – mewn dwy ysgrif estynedig ddeifiol a di-flewyn ar dafod, mae Diffwys Criafol yn cyflwyno dadansoddiad treiddgar o rianta dan gyfalafiaeth, ac anallu ein cymdeithas ar ei ffurf bresennol i gefnogi rhieni â thrawma ac afiechyd meddwl. Yn ei hail ysgrif, cawn gipolwg ar effeithiau Daeargryn 2023 ar deuluoedd Cwrdaidd yng Nghymru, a chondemiad o’n hanallu yn y gorllewin i roi gwerth ar fywydau pobl o liw yn y Dwyrain Canol. Mae Diffwys Criafol yn rhoi ei dwylo ar ein hysgwyddau a’n hysgwyd yn effro. Yn un o’r awduron y dewisiwyd eu gwaith trwy Ffenestr Gyflwyno 2023, mae Diffwys Criafol yn sgwenwraig anarchaidd anhysbys. Wedi tyfu i fyny yn symud tŷ yn rheolaidd, mae’n hanu o Lanbobman / Nant Nunlle – o’r Cymoedd i Wynedd. Dysgwch fwy a rhagarchebwch eich copi chi HEDDIW trwy'r ddolen yn y bio – pob un rhagarcheb yn gymorth i ni barhau i gyhoeddi llyfrau gan sgwennwyr fel Diffwys! Celf y clawr: jo baines
82 8
6 months ago
🎟️ Defendant Solidarity Raffle  Enter now to win one of 22 amazing prizes and stand in solidarity with those facing repression for their activism (full list of prizes in comments) 💪 For over a decade, Bristol Defendant Solidarity has supported activists across South Wales — providing legal, emotional, and practical aid 🔗 Enter by donating £2 for each ticket you would like to buy (or ideally £10 for 5 tickets!) all donations made between 26/10/25 and 15/11/25 will be part of the prize draw - link in bio! 🗓️ Raffle draw 15th November 🎁 22 prizes to be won! Every ticket helps fund essential solidarity work for those facing repression ✊ #Solidarity #DefendantSolidarity #Fundraiser #Activism
47 8
6 months ago