Dyma dudalen Instagram Moddion. Cafodd yr EP Golau Cyfarwydd ei rhyddhau yn 2023 a’r sengl Llonydd yn 2025.
Mae ‘Weithiau’ allan fory ar Spotify ayyb, neu fe allwch wrando rŵan ar Bandcamp.
Fe wnes i sgwennu yr EP ddechrau 2026 a mae’r caneuon yn gofnod o ddyddiau sy’n gwibio’n rhy gyflym, partïon pen-blwydd a fy methiannau DIY.
Dwi’n gobeithio bydd albym yn hwyrach eleni, fe wna’i drio rhannu pytiau o’r recordio, syniadau ac ysbrydoliaeth fan yma wrth fynd ymlaen.
Like and subscribe ydi bob dim di mynd ynde.