Diolch o galon, Wrecsam!
Ar ôl wythnos anhygoel o ddathlu, da ni wedi cyrraedd diwedd Eisteddfod arall. Diolch yn fawr i bob un ohonoch a ymunodd â ni!
Welwn ni chi flwyddyn nesaf yn Eisteddfod Y Garreg Las 2026 👋
Rydyn ni wrth ein boddau yn edrych trwy eich lluniau hyfryd o Ŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd yr wythnos diwethaf! 📸🎉
Diolch i bawb sydd wedi danfon i mewn hyd yn hyn! Allwch chi ddod o hyd i'ch hun mewn unrhyw un o'r lluniau hyn?
Mae'r Arglwydd Rhys yn dod yn fyw!
Rhwng Mehefin 19-27 2026, bydd yr Arlgwydd Rhys yn ailddeffro ac yn teithio ar draws Gorllewin Cymru cyn cynnal dathliad 850 mlynedd ers iddo sefydlu'r Eisteddfod yn Aberteifi.
Ymwelwch â'n Facebook ar gyfer mwy o wybodaeth am y daith a'r digwyddiad yn Aberteifi.
Lord Rhys is taking shape!
June 19th - 27th this year Lord Rhys will reawaken and travel across West Wales before hosting a celebration of 850 years since he founded the original Eisteddfod in Cardigan.
Visitit our Facebook for more information about the journey and the event in Cardigan.
Ffilmyddiaeth | Filmography: Crow Black Films
Cerddoriaeth | Music: bensound.com
Cod trwydded | License code: NQ06YFWN76RXSNC1
Artist: Benjamin Lazzarus
Dewch i greu arwyddion a baneri 'croeso' yn ystod gweithdy Harddu cyntaf Eisteddfod y Garreg Las! 🌸
✨ Ble? Castell Aberteifi
✨ Pryd? Dydd Sul 17 Mai, 10:00 i fusnesau lleol a 14:00 i drigolion
Mae mynediad i'r gweithdy am ddim!
Llongyfarchiadau mawr i bawb sy'n cael eu hanrhydeddu gan Orsedd Cymru heddiw.
O enwau cyfarwydd cenedlaethol i unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu milltir sgwar yn ddyddiol, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb i gael eu hurddo ar y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las eleni.
🏴 Llongyfarchiadau i @angharadjames10 a Joe Allen a fydd yn cael ei anrhydeddu i’r Orsedd yn @eisteddfod y Garreg Las!
The pair will be honoured by Gorsedd Cymru in August, one of the most prestigious achievements in Wales.
Dyma bach o ysbrydoliaeth Harddu i chi... ✨
Beth am greu draig allan o hen deiars? Neu greu arwyddion croeso allan o hen balets? Allwch chi blethu elfennau o’ch ardal i mewn i'r gelf? Neu ddefnyddio hen ddillad i greu bynting?
Edrychwch ar yr enghreifftiau yma o’r gorffennol i'ch helpu chi!
Cofiwch hefyd i gofrestru i fod yn rhan o’n Pwyllgor Harddu ar ein gwefan.
Cymanfa Ganu'r Cyhoeddi : Nos Sul 10 Mai | Y Tabernacl, Machynlleth | 18:00
Rhennir rhaglenni ar y drws a derbynnir cyfraniad er budd cronfa apêl yr Eisteddfod
Ymunwch yn y canu mawl sydd yn cynnwys 13 emyn / tonnau gan gyfansoddwyr a beirdd dalgylch yr Eisteddfod. Y gymanfa fydd yn cloi penwythnos o ddathliadau’r cyhoeddi a braf fyddai sicrhau cynulleidfa deilwng o gantorion a chefnogwyr lleol yno ar y noson. Bydd y gymanfa yn cael ei recordio ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.
Yr emyn-donnau
• Bryn Myrddin (Saif ein gobaith)
• Builth (rhagluniaeth fawr y nef)
• Prysgol (O am fywyd)
• Blaenwern (Gariad dwyfol)
• Brwynog (Pob seraff)
• Sicrwydd Bendigaid (Sicrwydd Bendigaid)
• Tyddewi (Mi dafla’ ‘mraich)
• Pen-parc (Ai am fy meiau i)
• Rhosymedre (Am blannu’r awydd)
• Pennant (Dyma gariad)
• Mae’r Iesu yn Geidwad i mi (Rwy’n canu fel cana’r Aderyn)
• Côr Caersalem (O Ganu Bendigedig)
📣 Line-up Nos Sadwrn! Parti pop efo @tair.eden@cordia.music a @_drosdro ar y Prif Lwyfan + @pysmelyn@tokomololomusic a @dewinband yn cloi noson ola ein llwyfan newydd sbon, Tacsi i’r Tywyllwch.
Am fwynhau’r gigs i gyd + campio? Ma’ tocynnau cyfnod yn brin – a thocynnau penwythnos olaf a gigs unigol yn symud yn gyflym hefyd.
🚨 DYDDIAD CAU FORY AM 17:00 🚨
Mewn band ac eisiau enill y gwobrau yma?
⭐ £1000
⭐ Slot yn Maes B
⭐ Ffilmio fideo i un o’ch caneuon
⭐ Sesiwn Radio Cymru
Mae ceisiadau Brwydr y Bandiau Maes B 2026 yn cau fory am 17:00!
Mwy o fanylion 📲 Ewch i wefan yr Eisteddfod
📣 Line-up Nos Wener! @bwncath@losblancosband@lafantband a mwy.
+ Mari Hwyr! Dawns. Syrcas. Anhrefn. 👀 🪩 ❤️🔥 🤫
Am fwynhau’r gigs i gyd + campio? Ma’ tocynnau cyfnod yn brin – a thocynnau penwythnos olaf a gigs unigol yn symud yn gyflym hefyd.
Meddwl am gamu i'r sbotolau eleni?
Mae cystadlu yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i berfformio o flaen cynulleidfa gefnogol a chael hwyl! Dim ond pum diwrnod sydd i fynd cyn y dyddiad cau, felly ewch amdani!
✨ Dyddiad cau: 1 Mai
Cofrestrwch ➡️ www.eisteddfod.cymru