◼️ VINYL ◼️
Mae feinyl Ymarfer Byw, fy albym diweddaraf, yma ac yn hedfan allan i gorneli Cymru a thu hwnt.
Mae modd i chi fachu eich copi chi drwy ddilyn y ddolen yn fy mywgraffiad.
——
My latest album, Ymarfer Byw, is now on vinyl. Stocks are flying out to all corners of Wales and beyond.
Grab your copy through the link in my bio.
Diolch!
Daf x
◼️NEI DI GADW LLYGA’D AR Y CAWL?◼️
Mi fydda i’n rhyddhau sengl arall oddi ar fy albym newydd ‘Ymarfer Byw’ yfory.
Bydd ‘Cawl’ ar gael i’w ffrydio ar y rhan helaeth o’ch hoff blatfformau ffrydio adeg hynny. Ych a fi.
Tan hynny, dyma ‘Cawl’ ar ffurf fideo miwsig.
Camera: @daf_hughes
Baneri a gosod: @cokeoak
Gwyliwch ar ôl eich hunain a phawb arall.
Daf x
◼️ GADA’LGAN ◼️
Dewch yn nes, bobol Cymru, wir i chi mae gen i stori i’w dweud wrthoch chi…
YMARFER BYW, fy albym diweddaraf, a’r gael i’w ffrydio ar eich hoff blatfformau ffrydio YFORY.
◼️ DIOLCH ◼️
Diolch o waelod calon ichi gyd am ddod i @galericaernarfon , neithiwr!
Roedd hi’n hyfryd cael bob un wan jac ohonoch yno hefo fi a’r band.
Diolch o waelod calon!
Mi fydda ni’n Nghaerdydd yn fuan iawn (ish!).
Ond tan hynny, diolch!
Daf x
📸 @galericaernarfon